Hip Hop

HIP HOP

Hydro Jam

Hydro Jam 
Diwylliant hip-hop yw un o’r arfau mwyaf pwerus i helpu i ddod â phobl at ei gilydd mewn ffordd gynhwysol a heddychlon. Mae’n hyrwyddo undod drwy waith tîm ar yr un pryd â dathlu unigolrwydd. Cymerodd hip-hop ei ddylanwadau o gynifer o lefydd. Rydym yn edrych ymlaen at archwilio ymhellach sut gall Cymru ddatblygu ei hunaniaeth hip-hop, gan ddathlu’r hyn y mae Cymru eisoes wedi’i gyflawni.

Mae hip-hop yn hyrwyddo gwybodaeth am eich hunan a’r hyder i wybod eich bod chi wir yn gallu cyflawni’r hyn rydych chi wedi bwriadu ei wneud. Mae yr un mor bwysig ei fod yn ymwneud â chael hwyl a mwynhau’r arddulliau celfyddydol, y cystadlaethau a chanfod beth rydych chi’n ei hoffi amdano.

Mae hip-hop yn darparu llwyfannau sy’n dyrchafu pawb.

Mae Avant yn cynnal digwyddiadau hip-hop, ac rydym yn datblygu Theatr Hip-Hop yng Nghymru i deithio’n genedlaethol ac yn rhyngwladol. Rydym ni wedi canfod mai hip-hop oedd y gelfyddyd a wnaeth ein helpu ni fel unigolion i ganfod ein lleisiau. Rydym ni’n creu Theatr Hip-Hop i roi cyfle i’r straeon amrywiol sydd heb gael eu clywed, i gael eu clywed, ac i sicrhau bod talentau pawb yn cael eu gwireddu. #HipHopIsHere


Sesiynau Jamio Brêc-ddawnsio:

Cafwyd llawer o ddadlau dros y blynyddoedd ynghylch a yw brêc-ddawnsio yn gamp, yn gelfyddyd neu’n weithgaredd cymunedol. Mewn gwirionedd, mae’r tri pheth yn wir. Mae’r gwaith theatr yn dangos ochr artistig y ddisgyblaeth, mae’r agwedd gorfforol yn gwthio’r corff i’r eithaf ac mae’r dechneg yn caniatáu i brêc-ddawnsio gael ei gynnwys mewn cystadlaethau fel y Gemau Olympaidd.
Rydym ni’n datblygu sesiynau jamio ar gyfer haf 2023; brwydrau 1:1 (a fydd yn cyfrannu at gynghrair www.ukbreakin.org), dawns, bît-bocsio, rapio a graffiti. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael cyn hir, cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol i gael rhagor o wybodaeth.
Yn 2022 cawsom ein henwebu am wobr One Dance UK yn y categori gwyrdd, gan ddathlu llwyddiannau’r digwyddiad, Hydro Jam, oedd yn ystyriol o’r hinsawdd. Hydro Jam oedd y digwyddiad jamio gwyrdd cyntaf yn y byd. Adeiladwyd y llwyfan gan ddefnyddio coed o’r coetiroedd a’u disodlwyd, a chafodd offer y DJs a’r microffonau eu pweru gan ynni trydan dŵr.

URDD Breakin’ yn yr Urban Games:
17 ac 18 Mehefin 2023
Hydro Jam:
Cynhelir y Jam nesaf yn ystod haf 2023
Jam cyntaf y byd sy’n ystyriol o’r hinsawdd




Cefnogwn UK Breakin' Dewch yn aelod heddiw:

www.ukbreakin.org

Theatr Hip Hop

ADDYSG

Mae Theatr Hip-Hop yn fath o gelfyddyd sy’n tyfu yng Nghymru. Rydym ni’n gweld Theatr Hip-Hop fel ffordd o ddefnyddio technegau hip-hop i adrodd straeon mewn ffyrdd creadigol a chyffrous.

Yn y gorffennol, creodd Avant PPPP a Blue Scar sydd wedi cael eu perfformio’n lleol ac yn genedlaethol (mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalen Digwyddiadau).
Yn 2020, cawsom grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru i ddatblygu Theatr Hip-Hop yng Nghymru ac roedd gennym bartneriaid cyffrous yn eu lle i’n helpu i wreiddio Theatr Hip-Hop yng Nghymru.

Cynhaliwyd sgwrs ym mis Hydref 2019 i gael gwybod beth roedd Cymru eisiau ar gyfer Theatr Hip-Hop. Gwyliwch y fideo a’r canfyddiadau yn y blog Rooting Hip Hop Theatre in Wales Conversation One.

Mae rhagor o weithdai ar y gweill drwy brosiect Hip-Hop Cymru Wales.

Gweithdai

Blaenorol

Mae Breakin' Convention, ar y cyd â Theatrau RhCT ac Avant Cymru yn cyflwyno 'Open Art Surgery' – cyfle i drafod, archwilio a rhoi Hip Hop o dan y chwyddwydr. 

28/10/2019

Hip Hop Cymru Wales 

Bydd cyfraniad Cymru at ddiwylliant byd-eang yn ystod haf 2023 yn fythgofiadwy wrth i’r gymuned hip-hop gynnal arddangosfa sy’n dathlu goreuon hip-hop Cymru mewn partneriaeth â lleoliadau diwylliannol ar draws y wlad. 

Bydd Hip-Hop Cymru Wales yn ymdrin â hanes cyfoethog hip-hop yng Nghymru – gan nodi ei ddechreuadau wrth iddo ysbrydoli pobl ifanc yn yr 80au drwy gylchgronau a theledu, i’r gymuned fywiog sydd ohoni heddiw sydd wedi helpu i sefydlu’r gymuned hip-hop yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Bydd yr arddangosfa’n cynnwys eitemau a gyfrannwyd gan bobl o bob rhan o gymuned hip-hop Cymru, gan gynnwys DJs, dawnswyr, artistiaid graffiti, rapwyr a memorabilia. Bydd yn arddangos ffotograffau o griwiau dawnsio o’r 80au, recordiau finyl, posteri hyrwyddo, clipiau ffilm a chyfweliadau gyda’r rheini sydd wedi ymwneud â’r gymuned yng Nghymru dros y 40 mlynedd diwethaf.

Crëwyd Hip-Hop Cymru Wales gyda chymorth Cronfa Dreftadaeth y Loteri a GWR. 
Mae yna gyfle i chi gofnodi eich hanes hip-hop eich hun.

Mae’r broses gasglu wedi dechrau, anfonwch neges e-bost at hello@avanti.cymru i gael rhagor o wybodaeth.

Hip Hop Cymru


Mae Cronfa Gymunedol GWR yn cefnogi ac arddangos a digwyddiadau, gyda Queens Hall Narbeth yn cefnogi taith i Orllewin Cymru a Welcome to Our Woods yn cefnogi taith i Dreherbert. . 


Mae croeso i bawb gymryd rhan. Agorodd yr arddangosfa yn Wrecsam yr haf hwn. Yn mynd i Narbeth fis Ionawr a Threherbert fis Mawrth eleni.

Get in touch

Share by: