Cefnogwch Ni

CEFNOGWCH NI

LLOGWCH NI

Gallwch logi Avant ar gyfer cynyrchiadau, prosiectau cymunedol a gweithdai. Rydym ni’n gweithio gyda gweithwyr proffesiynol profiadol hyfforddedig ar y llwyfan ac yn yr ystafell ddosbarth, a gallwn warantu ansawdd ein gwaith.

I drafod eich anghenion, anfonwch neges e-bost at hello@avant.cymru.

Noddwch ni 

Mae Avant yn rhedeg prosiectau sy’n gallu helpu i hyrwyddo eich busnes, rydym ni’n weithgar ar y cyfryngau cymdeithasol ac mae pob un o’n prosiectau’n cael eu hysbysebu i amrywiaeth o bobl. Noddwch ni a byddwn ni’n rhoi cyhoeddusrwydd i chi. 

Edrychwch ar yr hyn rydym ni’n ei wneud, er mwyn i chi allu noddi’r prosiect sy’n cyd-fynd orau â’ch busnes neu’ch sefydliad. 

Gwirfoddoli

Rydym ni bob amser yn estyn allan at y gymuned i glywed eich straeon, mae hynny wrth galon yr hyn rydym ni’n ei wneud. Rydym ni’n cynnig hyfforddiant a digwyddiadau er mwyn i chi allu dylanwadu ar ein gwaith, er enghraifft, rydym ni’n chwilio am bobl o’r Cymoedd i rannu eu straeon, eu syniadau a’u celf gyda ni.

Gwirfoddolwyr Aberfan. Yn ddiweddar, rydym wedi dechrau gweithio gyda Pharc Treftadaeth y Rhondda ac Archifau Morgannwg i gasglu llythyrau gan y bobl a wirfoddolodd ar ddiwrnod trychineb Aberfan. Bydd y llythyrau’n cael eu cadw’n ddiogel yn yr archifau tan 2066, pan fyddant yn cael eu rhoi i gymuned Aberfan i rannu’r hyn a wnaeth pobl i wirfoddoli ar y diwrnod.

Peidiwch ag oedi rhag cysylltu â ni, rydym ni bob amser yn fwy na pharod i sgwrsio!

a gefnogir gan balchder

Cysylltwch â ni

Share by: