Cyfarfod y tîm

AMDANOM NI

Datganiad

Mae Avant Cymru yn gwmni sector diwylliant blaengar o Gymoedd De Cymru. Rydym ni’n creu gweithgareddau theatr, dawns, hip-hop ac ymchwil perthnasol ac unigryw gyda’n cymuned ac ar ei chyfer, a hyrwyddo’r gwaith hwn yng Nghymru a thu hwnt.

Gweledigaeth

Rydym ni’n gweithio tuag at ddyfodol lle rydym ni a’n cymunedau’n creu cyfleoedd diwylliannol llawn gobaith, balchder ac uchelgais.

Ble rydym yn cofio’r gorffennol, yn trafod y presennol ac yn creu’r dyfodol, gyda’n gilydd.

A ble mae ein profiadau a’n dychymyg yn ysbrydoli pobl yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Cenhadaeth

Rydym ni’n gwrando ac yn hyrwyddo gobeithion, breuddwydion a straeon unigolion a grwpiau yn ein cymunedau.

Rydym yn gwneud hyn drwy gyd-greu gwaith newydd, hwyluso dosbarthiadau a gweithdai, trafodaethau a pherfformiadau, a darparu gwaith a hyfforddiant.

Mae sgwrsio yn hollbwysig. Rydym ni’n creu gofod gwrth-wahaniaethol sy’n seiliedig ar ddealltwriaeth o drawma i wneud yn siŵr bod yr hyn sy’n bwysig yn cael ei glywed. Rydym ni’n gwaredu’r rhaniadau rhwng yr artist, y gynulleidfa a’r cyfranogwr i gyd-greu perfformiadau gwreiddiol a pherthnasol, cymhellol a llawn dychymyg.

Rydym ni’n defnyddio’r ffurfiau creadigol sy’n berthnasol i’n cymunedau – gan gynnwys theatr, dawns, brêc-ddawnsio, hip-hop, ffilm, celf weledol, cerddoriaeth a sgiliau cysylltiedig. 

Rydym ni’n byw a bod yn y Rhondda a Wrecsam ac yn meithrin talent yma. Rydym ni’n arddangos ein gwaith trwy lwyfannau cymunedol, celfyddydol, chwaraeon a threftadaeth sy’n aml yn annisgwyl. Rydym ni’n ysbrydoli’n lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, ac rydym ni’n tyfu ac yn ffynnu gyda’n gilydd.

Cyfarfod y tîm

Rachel Pedley

Fe wnaeth Rachel sefydlu Avant ym mis Medi 2015, ar ôl symud yn ôl i’r Rhondda, gyda’r nod o ddarparu rhagor o gyfleoedd i artistiaid proffesiynol allu cydweithio, creu ac addysgu yn y Cymoedd a datblygu gwaith i deithio a rhannu straeon amrywiol o’r cymoedd.

Mae Rachel yn actor, dawnsiwr, dawnsluniwr ac athro. Hyfforddodd Rachel fel perfformiwr yn Swindon Dance ac yna yn y London Studio Centre. Roedd hi’n aelod o’r Pineapple Performing Arts Troupe ac mae wedi gweithio’n broffesiynol ym maes teledu, ffilm, y West End a theatr ranbarthol ers 2006, ar gyfer cwmnïau gan gynnwys y BBC, ac yn fwyaf diweddar i Sony a Netflix. Mae gan Rachel radd mewn Dawns mewn Addysg o’r Academi Ddawns Frenhinol.

Mae Rachel yn angerddol dros y gymuned, mae hyn deillio o blentyndod yn gwrando ar ei thad-cu yn canu ac yn perfformio mewn côr meibion. Mae Rachel yn niwroamrywiol ac mae ganddi epilepsi. Fel person ifanc, roedd hi’n orbryderus ac nid oedd ganddi lawer o hyder, gan gadw ei phen i lawr yn aml. Mewn dosbarthiadau dawns, atgoffodd ei hathrawon iddi sefyll en avant, gyda’i phen i fyny a’i llygaid ymlaen. Dyma’r ysbrydoliaeth y tu ôl i enw Avant - pen i fyny ac edrych ymlaen, gan deimlo’n fwy hyderus ynom ni ein hunain a’n gilydd. Mae Rachel ar bwyllgor cenedlaethol Equity, mae’n un o Gynrychiolwyr Dysgu Undebau Cymru, ac mae hi’n frwd dros sicrhau cyfleoedd i bawb.

Yannick Budd

Mae Yannick yn aelod allweddol o dîm actio Avant ers 2015. Mae wedi serennu yn Love Labours Won, Killer Cells, Rhondda Road, Forget Me Not, Twelfth Night, Henry V ac, yn fwyaf diweddar, chwaraeodd y brif rôl ym Macbeth.

Mae Yannick yn actor. Hyfforddodd yn wreiddiol yn y Bristol Acting Academy ac yna yn yr Identity Acting School.
Mae wedi perfformio yn yr Old Vic ym Mryste fel rhan o’r Ferment Festival ac mae hefyd wedi ymddangos mewn ffilm a gafodd ei chynnwys yng nghornel ffilm fer Gŵyl Ffilmiau Cannes 2020.

Hoff gynyrchiadau Yannick y mae wedi gweithio arnynt hyd yma gydag Avant yw Forget Me Not a Rhondda Road:

“Yr hyn roeddwn i’n ei hoffi fwyaf am y sioeau hyn, sy’n crynhoi yn union pam fy mod i wrth fy modd yn gweithio gydag Avant, yw bod natur safle-benodol y sioeau yn golygu bod y gynulleidfa’n rhan o'r perfformiad bron. Yn wir, roedden nhw hyd yn oed yn ymgysylltu â ni ar adegau. Fel perfformiwr, mae hynny’n ddiddorol iawn ac mae’n gofyn i chi fod mor bresennol â phosib. Nid oedd dwy sioe byth yr un fath, a dyna'r peth mwyaf cyffrous am actio yn y bôn. Alla i ddim aros i wneud yr un peth eto yn y dyfodol.”
Daeth Yannick yn gyfarwyddwr cwmni yn 2018.

Jamie Berry

Ymunodd Jamie ag Avant yn 2018 fel dawnsiwr ar People Picture Power Perception. Cafodd ei berfformiad sylw arbennig mewn adolygiadau. Ers hynny, mae wedi tyfu gydag ochr Theatr Hip-Hop y cwmni, gan ddawnslunio sioe’r Open Art Surgery a datblygu’r sioe Dark Thoughts – How do you add your colour? Mae Jamie yn angerddol dros ddefnyddio hip-hop i wella iechyd a lles a byddwn yn datblygu cyfleoedd iechyd a lles trwy hip-hop, gan gynnwys dosbarthiadau a sioeau rheolaidd.

Mae Jamie yn gweithio gyda UK Breakin' ac Avant i ddatblygu addysg yn seiliedig ar brêc-ddawnsio. Ei nod yw codi safonau a chreu cyfleoedd i'w fyfyrwyr a rhannu ei arferion gydag athrawon eraill, gan ddatblygu brêc-ddawnsio ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys y cyfleoedd Olympaidd.

Enillodd Jamie Wobr Tiwtor Creadigol y Flwyddyn Cymru 2020 a chafodd ei roi ar y rhestr fer yng Ngwobrau One Dance UK am ei waith ym maes Breakin' for Better Mental Health.

Hyfforddodd Jamie yn Swindon Dance, Circus Space ac MHTC. Roedd yn un o raddedigion cynllun CAT cyntaf y DU o gwrs YDA Urban. Mae wedi perfformio gyda chwmnïau fel Boy Blue Ent. Mae’n ddawnsiwr ac yn ddawnsluniwr profiadol ym maes brêc-ddawnsio a hip-hop.

Daeth Jamie yn gyfarwyddwr cwmni yn 2019 fel cynrychiolydd Theatr Hip-Hop ar y bwrdd. Ymunwch â Jamie yn ei ddosbarthiadau brêc-ddawnsio.
Mae rhagor o wybodaeth am waith Jamie ym maes hip-hop dros iechyd meddwl ar gael yma.
 https://www.bbc.co.uk/news/av/uk-wales-48495762/mental-health-how-breakdancing-classes-can-help?fbclid=IwAR1FFePPwapVvPMLr0f3Piq81_lnoUwwlBVAAJyM6zZGfr7-YUwXEKIQkVY

Eric Kwesi


Ymunodd Eric ag Avant yn 2021 fel actor yn Henry V, gan ymuno â ni eto yn 2022 ar gyfer Macbeth, gan gyfrannu at rai prosiectau ymchwil a datblygu ar gyfer Avant ac East15.


Ar ôl astudio’r Gyfraith yn y brifysgol, roedd ei angerdd at adrodd straeon yn amlwg iawn, ond nid oedd y maes yn addas iddo. Gan ddechrau ar ei yrfa actio yn 2011, mewn rownd derfynol i fyfyrwyr Gradd Meistr, datblygodd Eric ei grefft drwy ffilmiau byr, hysbysebion a gweithdai. Cyn ymuno ag Avant, ychydig o brofiad oedd gan Eric ar lwyfan, ond roedd yn awyddus i ehangu ei repertoire.



Mae Avant wedi creu llawer o gyfleoedd amrywiol i weithwyr llawrydd (ac mae’n parhau i wneud hynny), er enghraifft cyrsiau ymladd ar lwyfan. Nid yw cyrsiau fel y rhain yn cael eu cynnal yng Nghymru yn aml, ac yn aml nid ydynt yn fforddiadwy, ond gyda brwdfrydedd Avant i ddatblygu perfformwyr, mae wedi galluogi Eric i fod yn ymladdwr llwyfan profiadol ac achrededig.

Mae ei feddwl chwilfrydig wedi gwthio Eric i gwestiynu a dysgu mwy am y gwahanol rolau yn y diwydiant celfyddydau a thu hwnt. Gan ddefnyddio ei gefndir ym maes dysgu a datblygu, ac fel eiriolwr cryf dros amrywiaeth a chynhwysiant, mae Eric wedi cyflwyno safbwyntiau newydd wrth weithio gydag Avant.

Cler Stephens


Ymunodd Cler ag Avant fel cyfarwyddwr yn 2022. Mae’n gweithio gyda’r cwmni ers 2017 fel rhan o gynhyrchiad Forget Me Not a gwaith allgymorth ar gyfer Hiraeth.


Hyfforddodd Cler yn Queen Margaret College, Caeredin.

Mae hi wedi cael gyrfa amrywiol yn gweithio i lawer o gwmnïau ledled Cymru. Yn ddiweddar:

Fairygodmother - Sleeping Beauty - Theatr Torch, cyfarwyddwr Peter Doran

Our Werth - Tales & Tea - Theatr y Sherman, cyfarwyddwr Bethan Morgan

Mami/Gillian Anderson - Petula - NTW/TGC/aug012 cyfarwyddwr Mathilde Lápez

Eira - The Return/Y Dychweliad - Re-Live cyfarwyddwr Karin Diamond

Nerys – Star Over Burma – Taliesin gan/cyfarwyddwr Rhodri Hugh Thomas

35 Times - Theatr Mercury Cymru cyfarwyddwr Bethan Morgan

Belonging - Re-Live gan Karin Diamond cyfarwyddwr Peter Doran

Emily Davies - Forget Me Not - Avant Cymru cyfarwyddwr Rachel Pedley

Ffilmiau / fideos byr

Jeff gan Alun Saunders - cyfarwyddwr Carri Munn Claire Cage

Doorman gan Rich Matthews - cyfarwyddwr Rich Matthews

Lastcall gan Feral Productions - cyfarwyddwr Estelle van Wormelo

What Cares gan Larry Allan - Chris McGaughey Likeanegg Productions

Fairygodmother digidol - Bleinham Palace

Hen Fenyw Fach - Helfa Drysor - Avanti

Blue/Glas - gan/cyfarwyddwr Heledd Wyn Hardy

Cyd-sylfaenydd a chyfarwyddwr LaLaLa Productions

Cydweithredwr Theatr Stryd Swank

Cyn-gydweithredwr Theatr Peña a Cardifferent Tours

Ymarferydd meddygol a hyfforddodd yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Fferylliaeth.

PRP, Interact, Roleplay Reactors, Omidaze.

Gweithdai drama, hwylusydd a galluogwr creadigol Theatr Hijinx ac ymarferydd cyswllt gyda Re-Live.

Cydweithredwyr

UK Breakin’

Mae Avant Cymru a’n myfyrwyr o’r dosbarthiadau brêc-ddawnsio yn aelodau o UK Breakin’.
Mae’r athrawon yn cael eu diogelu a’u gwirio gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd drwy aelodaeth UK Breakin’.

Bydd y dawnswyr yn cymryd rhan mewn cyfleoedd DPP sydd ar y gweill gydag UK Breakin’, a byddant yn cymryd rhan mewn sesiynau jamio yn y DU i ennill lle yn y cynghreiriau.
Dod yn aelod o UK Breakin’
www.ukbreakin.org


Ymladd Dramatig


Mae Avant wedi perfformio ymladd dramatig yn ystod ein perfformiadau ers ergyd gyntaf Love Labours Won. Mae’r angen i actorion barhau i hyfforddi mewn sgiliau arbenigol yn bwysig ac, yn 2020, fe wnaethom ddefnyddio ein hadferiad ACW Culture i wneud yn siŵr bod gweithwyr llawrydd yn cael y cyfle i uwchsgilio eu sgiliau ymladd dramatig. Pa ffordd well o gadw pellter cymdeithasol na defnyddio cleddyfau?


Ers hynny, rydym wedi parhau i hyfforddi gyda’r British Academy of Dramatic Combat (BADC) ac ennill yr achrediadau.

Mae Avant yn bwriadu parhau i weithio gyda’r BADC i gynnig achrediadau pellach.


Mae gennym wyth actor sydd yn gymwys ar lefel ganolradd, gyda chymwysterau yn y meysydd canlynol: Meingleddyfa, Di-arf, Cleddyfa Un Fraich, Dagr, Cleddyf a Tharian, Cleddyf Hir, Bwyell a Tharian a Meingledd a Dagr.



Cyrsiau Dramatig sydd ar y Gweill

Gaeaf 2023 - cadwch lygad ar y gofod hwn

a gefnogir gan balchder

Cysylltwch â ni

Share by: